Aseswyr Anghenion a Chynghorwyr
Rydym yn mwynhau cydberthnasau gwaith cadarnhaol ag aseswyr anghenion a chynghorwyr anabledd.
Mae’r rhai sy’n dyrannu myfyrwyr i Beacon yn rheolaidd yn dweud eu bod yn gwneud hynny oherwydd yr adborth cadarnhaol a gânt gan fyfyrwyr am ein gwasanaeth.
Credwn mai un o’r rhesymau am ansawdd uchel ein cymorth yw cefndir cryf ein huwch staff mewn darpariaeth Band 4.
Mae hyn yn ein galluogi i gael dealltwriaeth dda o’r math o wasanaeth y mae myfyrwyr ei eisiau a’i angen.
Credwn fod dwy elfen yn ein gwneud yn wahanol i ddarparwyr allanol eraill. Y cyntaf yw ein gallu i ddarparu gwasanaeth gan staff cymorth sy’n siarad Cymraeg; yr ail yw ein harbenigedd mewn ADHD. Mae gennym ddiddordeb cryf mewn ADHD o ystyried nifer ein myfyrwyr sy’n dangos ei nodweddion - hyd yn oed os nad oes ganddynt ddiagnosis. Rydym wedi datblygu rhaglen gymorth i’n myfyrwyr sy’n mynd i’r afael yn benodol â phrif gyfyngiadau nodweddion ADHD, megis anawsterau gyda chanolbwyntio, ymddygiad byrbwyll a chymhelliant. Mae tystiolaeth yn dangos lefel uwch o ymgysylltu â chymorth gan fyfyrwyr sy’n dilyn y rhaglen hon. Os hoffech dderbyn ymweliad gennym i wybod mwy am ein rhaglen gymorth ADHD, cysylltwch â ni’n uniongyrchol.
Mae ansawdd uchel ein cymorth hefyd oherwydd rhaglen DPP fewnol gadarn Beacon. Rydym yn annog ein staff i ddiweddaru eu sgiliau a’u gwybodaeth yn barhaus ac rydym yn cynnal digwyddiadau hyfforddi i’r tîm cyfan i hwyluso hyn ynghyd â lledaenu arfer gorau. Anogir ein mentoriaid a’n tiwtoriaid i gymryd rhan mewn cymorth gan gymheiriaid ac mae ganddynt fynediad agored at uwch fentor hefyd.
Rydym yn eiriolwyr brwd dros ddefnyddio technoleg gynorthwyol yn ein sesiynau cymorth ac yn darparu hyfforddiant TG rheolaidd i’r holl staff. Roedd un o’n mentoriaid wrth ei bodd yn cael ei chyflwyno i dechnoleg mapio meddwl mewn sesiwn ddiweddar a dywedodd y byddai’n ei defnyddio ar unwaith mewn sesiynau adolygu. Credwn fod hyfforddi ein staff cymorth mewn technoleg gynorthwyol yn effeithiol wrth annog ei defnydd ymhlith myfyrwyr. Darllenwch y cofnod blog gan ein Rheolwr Technoleg Gynorthwyol y bu ei thraethawd ymchwil yn archwilio defnydd technoleg gynorthwyol mewn sesiynau cymorth. Mae mwyafrif ein tîm hefyd wedi mynychu cwrs hyfforddi Brain in Hand deuddydd fel y gallant ei ddefnyddio yn eu sesiynau gyda’r myfyrwyr hynny y mae wedi’i argymell iddynt fel offeryn.
Siaradwch â pherson go iawn.
Cysylltwch â ni ac fe wnawn ni helpu. Dim jargon, dim pwysau.