Am Beacon
Mae gan ein tîm rheoli gefndir mewn arweinyddiaeth ym maes addysg uwch a busnes ac roeddent yn awyddus i ddod ag arfer gorau i’r cwmni. Mae ein huwch staff yn angerddol am ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i fyfyrwyr anabl fel y mynegir yn ein datganiad gweledigaeth.
Ein Gweledigaeth
Rydym yn credu mewn rhoi ein myfyrwyr yn gyntaf ac yn cyflawni hyn drwy lefel gyson o ansawdd yn ein darpariaeth gwasanaeth. Rydym yn cefnogi’r model cymdeithasol o anabledd ac yn credu nad yw unrhyw ‘broblem’ yn y dysgwr ond yn yr amgylchedd ehangach. Ein cyfrifoldeb ni yw mynd i’r afael â rhwystrau allanol i alluogi ein myfyrwyr i lwyddo.
Rydym wedi ymrwymo i ddull cyfannol sy’n cynnwys bod yn rhagweithiol o ran lles ein myfyrwyr. Mae pob myfyriwr yn cael ei werthfawrogi ac ni fydd byth yn dod yn ddim ond ‘rhif’ yn Beacon. Rydym hefyd wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi ein staff ac yn credu y byddwn, gyda’n gilydd, yn parhau i ddarparu gwasanaeth rhagorol drwy ddiwylliant cadarnhaol ac annog cyflawni nodau proffesiynol.
Ein Tîm
Ewch i’n tudalen adborth myfyrwyr am safbwyntiau ein myfyrwyr ar eu cymorth.
Tiwtoriaid a Mentoriaid Sgiliau Astudio Arbenigol
Mae ein Tiwtoriaid a’n Mentoriaid Sgiliau Astudio Arbenigol i gyd wedi’u cofrestru gyda chorff proffesiynol. Maent wedi derbyn hyfforddiant y Gymdeithas Awtistig Genedlaethol (NAS) a Brain-in-Hand ac mae ganddynt flynyddoedd lawer o brofiad yn cefnogi myfyrwyr anabl. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn ymgysylltu’n rheolaidd â Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) fel bod eu gwybodaeth am anghenion myfyrwyr anabl a’r ffordd orau o’u diwallu yn gyfredol. Mae’r tîm yn Beacon yn angerddol am brofiad myfyrwyr a chefnogi dysgwyr yn llawn tuag at annibyniaeth a chwblhau eu hastudiaethau academaidd yn llwyddiannus.
Sgrinwyr Straen Gweledol
Mae Straen Gweledol yn gyflwr lle mae unigolion yn sensitif i lacharedd ac yn profi ystumiadau gweledol wrth ddarllen, er efallai bod ganddynt olwg berffaith dda. Yn aml caiff plant eu diagnosio ag ADHD neu Ddyslecsia pan mai straen gweledol sydd ar fai mewn gwirionedd. Mae gan lawer o’n myfyrwyr straen gweledol i wahanol raddau. Gall ein sgrinwyr cymwys ddarparu cyngor ac arweiniad perthnasol i’n myfyrwyr.
Siaradwch â pherson go iawn.
Cysylltwch â ni ac fe wnawn ni helpu. Dim jargon, dim pwysau.