Darpariaeth Gweithle
Hyfforddiant Gweithle
Os ydych yn gyflogwr sy’n dymuno gwneud newidiadau yn y gweithle i alluogi staff anabl, gallwn eich cynghori. Rydym hefyd yn gallu darparu hyfforddiant a gweithdai ar ymwybyddiaeth anabledd a phynciau cysylltiedig gan gynnwys lles, cyfathrebu, straen gweledol, ac anawsterau dysgu, sydd i gyd wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddarparu amgylchedd gweithle cefnogol.
Os ydych yn gyflogai sy’n dymuno trefnu eich cymorth eich hun o dan Mynediad i Waith, rydym yn darparu’r gwasanaethau canlynol:
Hyfforddi a mentora
Mae ein hyfforddwyr a’n mentoriaid gweithle yn defnyddio dull sy’n canolbwyntio ar atebion yn seiliedig ar anghenion yr unigolyn a’r sefydliad. Rydym yn gweithio un i un yn helpu cyflogeion i ddatblygu strategaethau mewn meysydd fel rheoli amser, trefnu, cyfathrebu, cymhelliant, llythrennedd/rhifedd.
Technoleg Gynorthwyol
Gall technoleg gynorthwyol fod yn hynod alluogol yn y gweithle, gan gynorthwyo gyda thasgau fel cynllunio, darllen, ysgrifennu, strwythuro, trefnu, cyflwyniadau a chofio. Gall ein hyfforddwyr technoleg gynorthwyol deithio atoch neu ddarparu hyfforddiant yn ein swyddfeydd yn Ne Cymru.
Prawfddarllen Arbenigol
Gall prawfddarllen eich gwaith eich hun fod yn heriol gan ein bod yn tueddu i ddarllen yr hyn roeddem yn bwriadu ei ysgrifennu. Gallwn ddarparu gwasanaeth prawfddarllen sy’n cynnwys cynnwys gwefan, cyflwyniadau, dogfennau, contractau, polisïau ac adroddiadau.
Siaradwch â pherson go iawn.
Cysylltwch â ni ac fe wnawn ni helpu. Dim jargon, dim pwysau.