Skip to main content
Beacon Support
Ymunwch â’r tîm

Gyrfaoedd

Os byddwch yn llwyddiannus yn ein proses recriwtio, byddwn yn darparu’r cyfraddau gorau yn y sector, rhaglen sefydlu gadarn, DPP parhaus, mynediad at reolwr (gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa) ac, i’n tiwtoriaid a’n mentoriaid, gymorth gan uwch fentor.

Mae ein proses recriwtio fel a ganlyn:

  • Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol at: jobs@beaconsupport.co.uk Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi’r ardal rydych yn gwneud cais amdani a’r pellter rydych yn barod i deithio.
  • Os ydych yn bodloni’r meini prawf gorfodol ar gyfer y rôl rydych yn gwneud cais amdani ond nad ydym yn recriwtio yn eich ardal ar hyn o bryd, byddwn yn cadw eich cais ar ffeil.
  • Os ydych yn bodloni’r meini prawf gorfodol ar gyfer y rôl rydych yn gwneud cais amdani a’n bod yn recriwtio yn eich ardal, byddwn yn ymdrechu i ateb i chi o fewn 7 diwrnod.
  • Byddwn yn trefnu cyfweliad ac, os byddwch yn llwyddiannus, byddwn yn gofyn i chi anfon tystiolaeth o’ch cymwysterau, dogfennaeth arall a geirdaon.
  • Unwaith y byddwn wedi gwirio eich dogfennaeth byddwn yn darparu hyfforddiant sefydlu a mynediad i’n hwb cyflogeion i chi.

Ymddiheurwn nad ydym yn gallu ymateb i ymholiadau unigol am gyfleoedd yn Beacon; fodd bynnag, efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi adolygu’r rolau a restrir cyn gwneud cais.

Gellir gweld y rolau presennol rydym yn recriwtio ar eu cyfer isod

Siaradwch â pherson go iawn.

Cysylltwch â ni ac fe wnawn ni helpu. Dim jargon, dim pwysau.